Teitl y ddeiseb: Gwnewch gyffordd Dorglwyd, Comins Coch ar yr A487 yn fwy diogel
Testun y ddeiseb:
Mae’r gyffordd hon ar yr A487 yn beryglus iawn. Bu llawer o ddamweiniau arni, a digwyddiadau a oedd bron yn ddamweiniau. Daw ceir rownd y gornel ddall yn rhy gyflym.
Credwn y byddai modd gwella diogelwch drwy gyfyngu’r cyflymder i 30 mya neu drwy osod cylchfan neu oleuadau traffig. |
Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd a'r awdurdod traffig sy'n gyfrifol am rwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ffyrdd lleol.
Mae'r A487 yn rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd ac mae’n rhedeg o Abergwaun i Fangor. Mae CrashmapUK yn dangos y bu nifer o ddigwyddiadau ger cyffordd Comins Coch yn y 10 mlynedd diwethaf.
Ym mis Mai 2022 roedd adroddiad am y ddeiseb yn y wasg, gyda'r erthygl yn cynnwys sylw gan Lywodraeth Cymru ei bod yn gweithio ar gynllun i wella diogelwch ffyrdd a gwelededd yn ardal y gyffordd.
Panel adolygu ffyrdd
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai panel adolygu ffyrdd yn adolygu buddsoddiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru o ran ffyrdd. Cyhoeddodd saib ar bob cynllun ffyrdd newydd tra bod yr holl gynlluniau presennol yn cael eu hadolygu.
Mae cylch gorchwyl y panel yn amlinellu yr hyn y gallai buddsoddiad Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys “buddsoddi sy'n cynnal diogelwch a gwasanaeth y rhwydwaith ffyrdd presennol”.
Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y panel ei adroddiad cychwynnol, gan nodi'r meini prawf y byddai’n eu defnyddio i adolygu pob cynllun ynghyd â rhestr o'r cynlluniau o fewn cwmpas yr adolygiad. Roedd hyn yn cynnwys cynllun ar yr A487 yng Nghomins Coch.
Ym mis Medi, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad pellach yn nodi bod y panel wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
Byddaf yn ystyried adroddiad ac argymhellion y panel ochr yn ochr â chyngor swyddogion. Rwy’n bwriadu cyhoeddi adroddiad y panel a’m penderfyniad yn ystod yr hydref, pan fydd y broses hon wedi’i chwblhau.
Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 10 Hydref, mae'r Dirprwy Weinidog yn amlinellu'r adolygiad o ffyrdd ac yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru:
...yn gweithredu ar unrhyw argymhellion o ran y gyffordd hon cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn cymeradwyaeth a dyraniad cyllid.
Ym mis Mai 2022, cyflwynodd Natasha Asghar AS gwestiwn ysgrifenedigynglŷn â’r swm a wariwyd ar gynllun A487 Dorglwyd Comins Coch cyn i’r ffordd gael ei chynnwys fel rhan o’r adolygiad ffyrdd.
Mae ymateb y Dirprwy Weinidog yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r costau sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau ochr yn ochr â'i phenderfyniadau ar ôl ystyried adroddiad terfynol y panel.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |